Y Pwyllgor Cyllid - FIN(4) 13-12 – Papur 1

Adolygiad o’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013

Mae’r papur canlynol yn edrych ar argymhellion craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru'r llynedd,  ar hyn sydd wedi digwydd ers hynny. Ei fwriad yw adfywio’r cof cyn proses eleni.

Gwahoddir yr Aelodau i wneud sylwadau os teimlant fod angen rhoi rhagor o sylw i rai materion.

Argymhelliad

Yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny

1. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio tuag at sicrhau bod canlyniadau arfaethedig gwariant cyhoeddus – a dulliau ar gyfer eu monitro – yn cael eu nodi a’u cyhoeddi’n gyson mewn ffordd amserol sy’n golygu bod modd craffu’n effeithiol ar werth am arian cynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru ac a ydynt yn ddigonol. (Tudalen 21)

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru’n nodi y byddai’r Rhaglen Lywodraethu’n adrodd ar y cynnydd.  Cafodd hon ei chyhoeddi’n gynharach eleni ac mae’n nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr ymrwymiadau. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio tuag at unioni mwy ar ei gwariant yn erbyn yr ymrwymiadau hyn.

2. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, wrth gyflwyno cyllidebau drafft yn y dyfodol, yn darparu manylion am newidiadau arfaethedig yn y gyllideb flwyddyn ar ôl blwyddyn (gan ddefnyddio’r ffigurau o gyllideb ddiweddaraf y flwyddyn ariannol flaenorol fel llinell sylfaen). (Tudalen 28)

Gweler 3 (isod).

3. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, wrth gyflwyno cyllidebau drafft yn y dyfodol, yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol a’r holl wybodaeth y gofynnir amdani ynglŷn â dyraniadau cyllidebol arfaethedig (gan gynnwys manylion am ddyraniadau cyllidebol arfaethedig o fewn adrannau, fel Llinellau Gwariant yn y Gyllideb) ar gael i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, , gan ddarparu lefel ddigonol o fanylder ar gyfer craffu mewn modd cyson a chydgysylltiedig ar adeg cyhoeddi’r gyllideb ddrafft neu mor agos at hynny ag sy’n rhesymol bosibl.   (Tudalen 28)

Cyflwynwyd ffigurau terfynol y gyllideb yn unol â’r cais. Mewn ymateb, cytunodd y Llywodraeth i weithio gyda’r pwyllgor ar wella tryloywder. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd adeiladol rhwng swyddogion, ac rydym yn obeithiol y bydd swyddogion y Cynulliad yn treulio cwpl o ddyddiau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Hydref i ddysgu mwy am eu proses.

4. Rydym yn argymell bod y Gweinidog Cyllid yn ymateb i bryderon pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn ystyried barn rhanddeiliaid, er mwyn gwella prydlondeb a lefel y manylion a gyhoeddir yng nghynigion y gyllideb ddrafft, er mwyn sicrhau bod modd craffu’n fwy effeithiol ar gynigion y gyllideb mewn perthynas â meysydd penodol. (Tudalen 28)

Gweler 3.

 

5. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n gweithio’n brydlon o ran datblygu agwedd strategol tuag at ddefnyddio’i hadnoddau cyfalaf, gan ddarparu adroddiadau chwarterol ar ei chynnydd i’r Pwyllgor Cyllid. Rydym yn argymell y dylai hyn sicrhau eglurder o ran pa elfennau o wariant cyfalaf arfaethedig Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun Seilwaith Cenedlaethol, a sut y caiff ei weinyddu a’i fonitro, er mwyn gallu craffu arno. (Tudalen 35)

Cred y Llywodraeth ei bod yn gwneud hyn (ac yn arloesi fel yn argymhelliad 6) drwy’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

6. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n parhau i  chwilio pob dull a modd o gynyddu cyfleoedd ariannu cyfalaf a sicrhau’r manteision gorau i Gymru. Rydym yn rhagweld y byddai hyn yn cynnwys dadansoddiad cadarn o ganlyniadau tymor byr a chanlyniadau tymor hir dulliau o’r fath ar gynyddu ariannu cyfalaf ar gyfer Cymru. Rydym yn rhagweld y byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu adroddiadau chwarterol ar ein cyfer ar y materion a godwyd yn yr argymhellion hyn. (Tudalen 36)

Gweler uchod.

Ni roddwyd yr adroddiadau chwarterol ar waith, ond dywedodd y Gweinidog y byddai’n hapus i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf fel sy’n briodol.

7. Rydym yn argymell bod asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gynnal ar gyfer yr holl ddyraniadau arfaethedig o fewn cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Rydym yn rhagweld y byddai asesiad o effaith y gyllideb ar ddatblygiad yr Iaith Gymraeg yn cyd-fynd â hyn. (Tudalen 45)

Roedd naratif y gyllideb ddrafft yn nodi bod cynlluniau a oedd wedi newid yn sylweddol, wedi eu hasesu o ran effaith ar gydraddoldeb.

Gall diffiniadau o ‘sylweddol’ amrywio.

Dywedodd ymateb Llywodraeth Cymru ei fod wedi ‘gosod ein hasesiad o’r effaith ar gydraddoldeb wrth wraidd ein prosesau cyllidebol’. Mae hefyd yn nodi mai hi oedd y weinyddiaeth gyntaf yn y DU i gynnal Asesiad cynhwysfawr o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Cred Llywodraeth Cymru fod ei holiadur iaith Gymraeg, sydd wedi’i integreiddio i’r broses o wneud polisïau, a’i Gynllun Iaith yn cynnwys hyn yn ddigonol.

8. Rydym yn argymell bod Asesiad llawn o’r Effaith ar Gynaliadwyedd yn cael ei gynnal ar gyfer pob dyraniad arfaethedig o fewn cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. (Tudalen 45)

Dywed Llywodraeth Cymru bod ystyriaeth o Ddatblygu Cynaliadwyedd wedi’i brif-ffrydio i bob agwedd ar y broses o gynllunio’r gyllideb.

9. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n cynnal deialog gyda Byrddau Iechyd Lleol er mwyn sicrhau bod eu cynlluniau gwasanaeth yn cael eu cwblhau a’u bod ar gael i’r cyhoedd cyn gynted â phosibl, a bod y Gweinidog wedyn yn adrodd ynghylch a fydd y cyllid sydd ar gael i Fyrddau Iechyd Lleol yn ddigonol ar gyfer cyflawni cynlluniau o’r fath (Tudalen 55)

O ymateb Llywodraeth Cymru: Nid oes unrhyw reswm dros gredu y bydd y cyllid ychwanegol yr ydym yn ei ddarparu i’r GIG yn y Gyllideb Ddrafft yn annigonol iddynt gyflawni’u cynlluniau gwasanaeth.

10. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n egluro rôl ei uned gyflenwi o ran sicrhau cyflawni’r canlyniadau y bwriadwyd iddynt gael eu galluogi gan y gyllideb ddrafft. Rydym yn rhagweld y byddai hyn yn cynnwys eglurder o ran rôl yr uned gyflenwi yn monitro cyflawniad canlyniadau, ac yn galluogi  i gamau gweithredu priodol gael eu cymryd lle mae canlyniadau mewn perygl o beidio â chael eu gwireddu. (Tudalen 60)

Dywed ymateb Llywodraeth Cymru fod y rôl yn glir, fel y nodwyd yn natganiad y Gweinidog Cyllid ar 13 Gorffennaf 2011. (hyperddolen i’r datganiad, rhag ofn eich bod yn darllen copi ar bapur)

Tra bod y datganiad yn egluro’r rôl o fonitro, mae’n llai clir o ran y ffordd y mae’n ymdrin â rhaglen lle mae canlyniadau mewn perygl o beidio â chael eu gwireddu.